Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2019
Amser:
08.30 -
08.47
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a’r Trefnydd, gan ddweud ei bod yn dirprwyo’n ffurfiol ar ran Julie James yn y cyfarfod heddiw. Bydd cynnig yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yfory i ethol Rebecca Evans yn ffurfiol i'r Pwyllgor Busnes.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Busnes yr Wythnos Hon
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y ddadl fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 16 Ionawr 2019 -
· Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 (15 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Tân mewn Adeiladau Uchel Iawn (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
–
gohiriwyd tan 23 Ionawr
Dydd Mercher 23 Ionawr 2019 -
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ynghylch Hawliau Pobl Hŷn (60 munud)
·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Gwybodeg GIG
Cymru (60 munud) -
gohiriwyd tan 30 Ionawr
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
–
gohiriwyd tan 16 Ionawr
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd tan 30 Ionawr
Dydd Mercher 30 Ionawr 2019 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Gwybodeg GIG
Cymru (60 munud) -
gohiriwyd ers 23 Ionawr
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd - gohiriwyd ers 23
Ionawr
Cytunodd y Rheolwr Busnes i gynnal dadl ar y cynnig 16 Ionawr
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn deall bod canllawiau NICE wedi’u diweddaru ers i'r llythyr gael ei anfon. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried hyn ymhellach, mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Deisebau, cyn penderfynu a ddylid cynnal dadl.
Nododd y Rheolwyr Busnes y newidiadau. Dywedodd y Trefnydd fod Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion yn trafod sut y byddant yn dyrannu’r cyfrifoldebau rhyngddynt. Bydd y ddogfen 'Cyfrifoldebau'r Gweinidogion,' yn cael ei diwygio a’i chylchredeg eto i'r Aelodau yn fuan.
Cadeiriodd y Dirprwy Lywydd yr eitem hon gan mai’r Llywydd yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.
Ystyriodd Rheolwyr Busnes y papur a ph'un ai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddylai fod yn gyfrifol am ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil. Nododd Darren Millar fod gwrthdaro buddiannau yn achos un aelod o’r Pwyllgor hwn sydd hefyd yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad, ac awgrymodd y dylid cyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Nodwyd hefyd fod y Pwyllgor hwnnw'n cynnwys Aelod o'r Comisiwn.
O gofio mai'r penderfyniad cyntaf yw ymgynghori ynghylch yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol cyn penderfynu at ba bwyllgor y dylid cyfeirio’r mater.
O ran mater yr amserlen arfaethedig, cododd y Trefnydd yr effaith bosibl ar Fil Etholiadau Lleol y Llywodraeth os bydd unrhyw oedi wrth gyflwyno’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Ymweliad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau â Manceinion
Cytunodd y Rheolwyr Busnes â'r cais.